Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd yn ymestyn dros 62 milltir sgwâr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, o Brestatyn yn y gogledd i Fwlch Nant y Garth yn y de, ac o Ddyffryn Clwyd yn y gorllewin i Aber Afon Dyfrdwy yn y dwyrain.
Ar y tudalennau canlynol gallwch ddod o hyd i lety, tafarndai, gweithgareddau a gwasanaethau a fydd yn ategu at eich mwynhad o Gefn Gwlad Clwyd.
Pam na arhoswch am dipyn ac archwilio'r pentrefi bychan sydd yn cuddio i lawr lonydd gwledig? Dewiswch o'r amrywiaeth eang o weithgareddau, bwyd a llety a gynigir yn yr ardal hardd hon!
Mae cymaint i'w weld, bydd yn rhaid ichi ddod yn ôl eto!